HYSBYSIAD PREIFATRWYDD I ETHOLWYR

Rydw i, Huw Irranca-Davies yn Aelod o’r Senedd dros etholaeth Ogwr.

Un o’m rolau allweddol, fel Aelod o’r Senedd, yw codi materion ar ran etholwyr. Felly, fel rhan o’m rôl, byddaf yn aml yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud ag etholwyr. O bryd i’w gilydd, byddaf hefyd yn cysylltu â’m hetholwyr i ofyn iddynt lenwi arolygon er mwyn casglu gwybodaeth a barn am faterion sy’n berthnasol i’m rôl fel Aelod o’r Senedd.

Yn yr adrannau isod, wrth gyfeirio at etholwyr, byddaf yn defnyddio’r termau “chi” neu “eich”.

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn nodi gwybodaeth sy’n ymwneud â sut y byddaf yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol ac yn nodi pa hawliau sydd gennych mewn perthynas â’ch gwybodaeth bersonol o dan gyfraith diogelu data.

 

SUT YDW I’N YMDRIN Â PHREIFATRWYDD?

Mae sicrhau eich preifatrwydd yn eithriadol o bwysig i mi ac rwyf am i chi deimlo’n hyderus bod eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel yn fy nwylo i.

Dim ond o bryd i’w gilydd, yn ôl y gyfraith diogelu data sy’n gymwys i Gymru a Lloegr, y byddaf yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.

O dan y gyfraith diogelu data, pan ddefnyddiaf eich gwybodaeth bersonol, byddaf yn gweithredu fel rheolwr data. Yn y bôn, mae hyn yn golygu y byddaf yn gwneud penderfyniadau ynghylch sut i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol a pham.

 

SUT Y BYDDAF YN DEFNYDDIO EICH GWYBODAETH BERSONOL?

Nodir isod sut y byddaf yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, y seiliau cyfreithiol y byddaf yn dibynnu arnynt, pa mor hir y byddaf yn cadw eich gwybodaeth bersonol a manylion eraill.

GWAITH ACHOS AC YMGYSYLLTU DEMOCRATAIDD

Pa wybodaeth bersonol y byddaf yn ei defnyddio Eich enw, manylion cyswllt (cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn ac ati);

Gwybodaeth a roddwyd amdanoch wrth godi mater neu bryder gyda mi. Gall y wybodaeth hon gynnwys gwybodaeth bersonol categori arbennig fel eich tarddiad hil neu ethnig, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol, aelodaeth o undeb lafur, iechyd corfforol neu feddyliol (gan gynnwys manylion am unrhyw anabledd) neu gyfeiriadedd rhywiol. Gall hefyd gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud ag euogfarnau troseddol neu unrhyw drosedd a gyflawnwyd neu drosedd honedig.

Unrhyw farn a roddwch (gan gynnwys barn wleidyddol) mewn ymateb i unrhyw arolwg neu ymarfer casglu gwybodaeth.

 

Sut y byddaf yn cael y wybodaeth bersonol Caiff ei rhoi gennych chi pan fyddwch yn cysylltu â mi gydag ymholiad neu bryder neu gan drydydd parti pan godir yr ymholiad neu’r pryder ar eich rhan.

 

At ba ddibenion y byddaf yn defnyddio’r wybodaeth bersonol Byddaf yn defnyddio eich enw, eich cyfeiriad a’ch manylion cyswllt eraill i gyfathrebu â chi ynghylch y mater neu’r pryder a godwyd ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ac adborth i chi.

Byddaf yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i symud eich mater neu eich pryder yn ei flaen a chymryd camau i fynd i’r afael ag ef.

Byddaf yn defnyddio eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt eraill i gynnal arolygon a chasglu gwybodaeth a barn i lywio ac arfarnu fy ngwaith fel eich Aelod o’r Senedd.

Sylwer na fyddaf yn rhannu unrhyw ran o’ch gwybodaeth bersonol a ddarperir gennych mewn gweithgareddau ymgysylltu a ariennir gan Gomisiwn y Senedd at ddibenion pleidiol gwleidyddol neu ymgyrchu.

 

Y seiliau cyfreithiol rwy’n dibynnu arnynt ar gyfer prosesu gwybodaeth Mae fy nefnydd o’ch gwybodaeth bersonol mewn cysylltiad â’r dibenion a nodir uchod yn angenrheidiol er mwyn ymgymryd â thasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i mi. Yn gyffredinol, y rheswm dros hyn yw y caiff eich gwybodaeth bersonol ei phrosesu gennyf wrth ymgymryd â gweithgarwch sydd, oherwydd ei natur, yn cefnogi neu’n hyrwyddo ymgysylltu democrataidd.

Lle mae eich mater neu eich pryder yn un sy’n cynnwys prosesu gwybodaeth bersonol categori arbennig, bydd angen i mi ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol categori arbennig am resymau er budd sylweddol y cyhoedd. Y rheswm dros hyn yw bod y gwaith prosesu’n cael ei wneud gennyf yn fy swydd fel cynrychiolydd etholedig, mewn cysylltiad ag ymgymryd â’m swyddogaethau ac mae’n ymateb i gais gennych chi i weithredu neu gais ar eich rhan.

Os bydd unrhyw farn (gan gynnwys barn wleidyddol) a roddwch mewn ymateb i unrhyw arolwg neu ymarfer casglu gwybodaeth yn cynnwys prosesu gwybodaeth bersonol categori arbennig, bydd fy nefnydd o’ch gwybodaeth bersonol categori arbennig yn angenrheidiol am resymau er budd sylweddol i’r cyhoedd mewn perthynas â’m gweithgareddau gwleidyddol, sef arolygon gwleidyddol.

 

Am ba hyd y byddaf yn cadw’r wybodaeth bersonol a pham y byddaf yn ei chadw Fel arfer safonol, byddaf yn cadw’ch gwybodaeth bersonol nes bydd eich achos ar gau ac am gyfnod o 2 flynedd arall, neu tan etholiad nesaf Senedd Cymru pa bynnag un sy’n gyntaf. Rwy’n ystyried bod y cyfnod o ddwy flynedd yn amser rhesymol i gynnal yr gwaith achos, rhag ofn bod angen ailagor y gwaith achos.

 

CYLCHLYTHYRAU A MARCHNATA UNIONGYRCHOL

Pa wybodaeth bersonol y byddaf yn ei defnyddio Eich enw, manylion cyswllt (cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn ac ati).

 

Sut y byddaf yn cael y wybodaeth bersonol Wedi’i ddarparu gennych chi neu wedi’i gael o’r Gofrestr Etholiadol.

 

At ba ddibenion y byddaf yn defnyddio’r wybodaeth bersonol Rhoi cylchlythyrau a diweddariadau i chi am y gwaith rwy’n ei wneud yn eich ardal chi ac yn Senedd Cymru.

 

Y seiliau cyfreithiol rwy’n dibynnu arnynt ar gyfer prosesu gwybodaeth Ar gyfer cyfathrebiadau electronig, rydych wedi rhoi eich caniatâd.

Ar gyfer cyfathrebu ar wahân i ddulliau electronig, mae fy nefnydd o’ch gwybodaeth bersonol yn angenrheidiol er mwyn ymgymryd â thasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i mi. Y rheswm dros hyn yw y caiff gwybodaeth bersonol ei phrosesu gennyf er mwyn cyfathrebu ag etholwyr wrth ymgymryd â gweithgarwch sy’n cefnogi neu’n hyrwyddo ymgysylltu democrataidd.

 

Am ba hyd y byddaf yn cadw’r wybodaeth bersonol a pham y byddaf yn ei chadw Pan fyddaf yn prosesu eich gwybodaeth bersonol i gyfathrebu am resymau marchnata uniongyrchol, byddaf yn cadw eich gwybodaeth bersonol oni bai a nes y byddwch yn rhoi gwybod i mi nad ydych am gael marchnata uniongyrchol gennyf mwyach. Gallwch ofyn imi roi’r gorau i anfon yr ohebiaeth hon atoch ar unrhyw adeg drwy gysylltu â mi ar Huw.Irranca-Davies@senedd.cymru

 

 

CYNGHORWYR A GRWPIAU CYMUNEDOL

Pa wybodaeth bersonol y byddaf yn ei defnyddio Eich enw, manylion cyswllt (cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn ac ati).

 

Sut y byddaf yn cael y wybodaeth bersonol Rhoddwydd gennych chi lle rydych chi wedi cyllystu â mi ar sail gwaith achos. Hefyd wedi’I gymryd o barth cyhoeddus.

 

At ba ddibenion y byddaf yn defnyddio’r wybodaeth bersonol I gael cyngor a chymorth wrth ddelio ag achos. I roi gwybod i chi am wybodaeth berthnasol.

 

Y seiliau cyfreithiol rwy’n dibynnu arnynt ar gyfer prosesu gwybodaeth Mae fy nefnydd o’ch gwybodaeth bersonol mewn cysylltiad â’r dibenion a nodir uchod yn angenrheidiol er mwyn ymgymryd â thasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i mi. Yn gyffredinol, y rheswm dros hyn yw y caiff eich gwybodaeth bersonol ei phrosesu gennyf wrth ymgymryd â gweithgarwch sydd, oherwydd ei natur, yn cefnogi neu’n hyrwyddo ymgysylltu democrataidd.

 

Am ba hyd y byddaf yn cadw’r wybodaeth bersonol a pham y byddaf yn ei chadw Byddaf yn cadw eich gwybodaeth bersonol oni bai a nes y byddwch yn rhoi gwybod i mi nad ydych am gael gwybodaeth marchnata uniongyrchol na chyfathrebu gwleidyddol gennyf mwyach. Gallwch ofyn imi roi’r gorau i anfon yr ohebiaeth hon atoch ar unrhyw adeg drwy gysylltu â mi ar Huw.Irranca-Davies@senedd.cymru

 

 

PRYD Y BYDDAF YN RHANNU EICH GWYBODAETH BERSONOL AG ERAILL?

O bryd i’w gilydd, bydd angen i mi rannu eich gwybodaeth bersonol ag eraill. Mae’r adran hon yn nodi manylion pwy y byddaf yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â hwy a pham. Mae hefyd yn dweud wrthych am fy sail gyfreithiol dros wneud hynny o dan y gyfraith diogelu data a chamau y byddaf yn eu cymryd i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol.

Sylwer na fyddaf yn rhannu unrhyw ran o’ch gwybodaeth bersonol a ddarperir gennych mewn gweithgareddau ymgysylltu a ariennir gan Gomisiwn y Senedd at ddibenion pleidiol gwleidyddol neu ymgyrchu.

COMISIWN Y SENEDD

Gwybodaeth am ein perthynas â Chomisiwn y Senedd Comisiwn y Senedd yw’r corff annibynnol sydd, ymhlith pethau eraill, yn cefnogi Aelodau’r Senedd yn eu gwaith.

 

Pam mae angen i mi rannu eich gwybodaeth bersonol â staff Comisiwn y Senedd I gael cyngor a chymorth wrth ymdrin â’ch mater neu eich pryder.

 

Y sail gyfreithiol rwy’n dibynnu arni wrth rannu eich gwybodaeth bersonol Bydd angen rhannu gwybodaeth bersonol â staff Comisiwn y Senedd er mwyn ymgymryd â thasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i mi. Yn gyffredinol, y rheswm dros hyn yw y caiff eich gwybodaeth bersonol ei phrosesu gennyf wrth ymgymryd â gweithgarwch sydd, oherwydd ei natur, yn cefnogi neu’n hyrwyddo ymgysylltu democrataidd.

 

Pa ragofalon rwy’n eu cymryd? Mae staff Comisiwn y Senedd wedi ymgymryd â hyfforddiant diogelu data ac maent yn ymwybodol o bwysigrwydd diogelu gwybodaeth bersonol. Mae gan Gomisiwn y Senedd bolisïau a mesurau diogelu priodol ar waith i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol.

 

SEFYDLIADAU ERAILL A ALL HELPU GYDA’CH ACHOS

Pwy yw’r Sefydliadau hyn? Byddaf yn rhannu eich gwybodaeth bersonol yn ôl yr angen â sefydliadau a all helpu gyda’ch achos. Yn aml, bydd y rhain yn sefydliadau megis awdurdodau lleol a byrddau iechyd a fydd, o bryd i’w gilydd, gan ddibynnu ar natur eich ymholiad neu eich pryder, yn gallu helpu gyda’ch achos neu bydd ganddynt wybodaeth sy’n berthnasol i’ch achos.

 

Pam mae angen i mi rannu eich gwybodaeth bersonol â nhw I helpu gyda’ch achos neu i gael gwybodaeth sy’n berthnasol i’ch achos.

 

Y seiliau cyfreithiol rwy’n dibynnu arnynt wrth rannu eich gwybodaeth bersonol Bydd angen rhannu gwybodaeth bersonol â’r sefydliadau hyn er mwyn ymgymryd â thasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i mi. Yn gyffredinol, y rheswm dros hyn yw y caiff eich gwybodaeth bersonol ei phrosesu gennyf wrth ymgymryd â gweithgarwch gwaith achos sydd, oherwydd ei natur, yn cefnogi neu’n hyrwyddo ymgysylltu democrataidd.

 

Pa ragofalon rwy’n eu cymryd? Dim ond yn ôl yr angen y byddaf yn rhannu gwybodaeth bersonol a byddaf yn cymryd camau i wneud y sefydliadau’n ymwybodol o bwysigrwydd diogelu gwybodaeth bersonol.

 

DARPARWYR GWASANAETHAU TECHNOLEG GWYBODAETH

 phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol? Seilwaith TGCh Comisiwn y Senedd, sy’n cynnwys gwasanaeth cwmwl a ddarperir gan Microsoft;

  • Cwmni cynnal gwefan, sef wordpress.com
  • Elected Technologies.’

 

Pam mae angen imi rannu eich gwybodaeth bersonol â’r darparwyr hyn Rwy’n defnyddio cyflenwyr cynhyrchion a gwasanaethau technoleg gwybodaeth mewn cysylltiad â chyflenwi, cynnal a chadw a/neu wella fy rhwydwaith TG, er mwyn rheoli gwaith achos yn effeithiol trwy ddarparu meddalwedd briodol, a chreu, datblygu a chynnal a chadw fy ngwefan.

 

Y seiliau cyfreithiol rwy’n dibynnu arnynt wrth rannu eich gwybodaeth bersonol O ran gohebiaeth electronig a anfonir atoch, rydych wedi rhoi eich caniatâd.

Ym mhob achos arall, rwy’n dibynnu ar fy muddiannau cyfreithlon wrth sicrhau bod fy ngwaith fel Aelod o’r Senedd yn cael ei reoli’n effeithlon, y gall fy system TG weithredu’n briodol ac yn effeithlon, a bod fy rhwydwaith TG yn ddiogel.

 

Pa ragofalon rydym yn eu cymryd? Rydw i neu Gomisiwn y Senedd (fel y bo’n briodol) yn ymrwymo i gontractau gyda’m darparwyr TG sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt roi mesurau diogelwch priodol ar waith ac sy’n cyfyngu ar eu defnydd o’ch gwybodaeth bersonol.

 

TRYDYDD PARTÏON ERAILL

Hefyd, gall fod angen i mi rannu eich gwybodaeth bersonol ag eraill yn yr amgylchiadau a ganlyn:

Gofynion cyfreithiol neu reoleiddiol Yn achlysurol, gall fod angen i mi ddatgelu eich gwybodaeth bersonol i sefydliadau megis y llysoedd neu’r heddlu er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol rydym yn ddarostyngedig iddynt a/neu er mwyn atal twyll neu drosedd.

 

Diogelu Yn achlysurol, gall fod angen i mi ddatgelu eich gwybodaeth bersonol i sefydliadau eraill, megis yr awdurdod lleol neu’r heddlu, at ddibenion diogelu er budd sylweddol y cyhoedd.

 

Cyngor proffesiynol a chamau cyfreithiol Gall fod angen i mi ddatgelu eich gwybodaeth bersonol i’m cynghorwyr proffesiynol (er enghraifft, cyfreithwyr a chyfrifwyr) mewn cysylltiad â’r cyngor proffesiynol a ddarperir ganddynt a/neu gadarnhau neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.

 

 

YMGYSYLLTU Â MI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Bydd unrhyw negeseuon neu sylwadau cyfryngau cymdeithasol a anfonwch (ar fy nhudalen Facebook, er enghraifft) yn cael eu rhannu o dan delerau’r llwyfan cyfryngau cymdeithasol perthnasol (e.e. Facebook neu Twitter) y maent wedi’u hysgrifennu arno a gallent fod yn gyhoeddus.  Nid wyf yn rheoli’r llwyfannau hyn ac nid wyf yn gyfrifol am y math hwn o rannu. Cyn i chi wneud unrhyw sylwadau neu arsylwadau, dylech adolygu telerau ac amodau a pholisïau preifatrwydd y llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddiwch. Drwy wneud hynny, byddwch yn deall sut y byddant yn defnyddio eich gwybodaeth, pa wybodaeth sy’n ymwneud â chi y byddant yn ei rhoi ar gael i’r cyhoedd, a sut y gallwch eu hatal rhag gwneud hynny os ydych yn anhapus yn ei gylch.

 

YM MHA AMGYLCHIADAU Y BYDDAF YN ANFON EICH GWYBODAETH BERSONOL Y TU ALLAN I’R DU

Heblaw am y gwasanaeth cwmwl a ddarperir gan Microsoft, nid wyf yn rhagweld y bydd angen anfon eich gwybodaeth bersonol y tu allan i’r DU. Mae Microsoft wedi rhoi contract ysgrifenedig ar waith i ymgorffori cymalau model yn ymwneud â throsglwyddo gwybodaeth bersonol y tu allan i’r DU, sy’n darparu mesurau diogelu er mwyn diogelu eich gwybodaeth bersonol.

Os bydd angen trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i’r DU mewn amgylchiadau eraill, byddaf yn rhoi gwybod i chi. Fodd bynnag, gallwch fod yn sicr, os bydd angen i mi drosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i’r DU, y byddaf yn defnyddio un o’r mesurau diogelu hyn er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei diogelu:

  • Byddaf ond yn eu trosglwyddo wlad y tu allan i’r DU y mae llywodraeth y DU wedi penderfynu bod ganddi lefel ddigonol o ddiogelwch ar gyfer gwybodaeth bersonol. Gallwch ddod o hyd i fwy am wledydd o’r fath yma https://ico.org.uk/for-organisations/guide-to-data-protection/guide-to-the-general-data-protection-regulation-gdpr/international-transfers-after-uk-exit/; neu
  • Byddaf yn rhoi contract ysgrifenedig ar waith rhyngof fi a’r derbynnydd sy’n ymgorffori cymalau model sy’n ymwneud â throsglwyddo gwybodaeth bersonol y tu allan i’r DU; neu
  • Byddaf yn cael eich caniatâd penodol i wneud hynny.

 

PA HAWLIAU SYDD GENNYCH O DAN Y GYFRAITH DIOGELU DATA?

O dan y gyfraith diogelu data, mae gennych nifer o wahanol hawliau sy’n ymwneud â defnyddio’ch gwybodaeth bersonol sy’n berthnasol mewn amgylchiadau penodol. Yn gryno, yr hawliau hynny yw:

  • Hawl mynediad – hawl yw hwn i gael copi o’ch gwybodaeth bersonol sy’n cael ei phrosesu gennyf fi a rhywfaint o wybodaeth atodol ychwanegol.
  • Hawl i gael gwybodaeth bersonol anghywir wedi’i chywiro
  • Hawl i ddileu – hawl yw hwn, mewn rhai amgylchiadau, i’ch gwybodaeth bersonol gael ei dileu neu ei gwaredu.
  • Hawl i wrthwynebu – hawl yw hwn, mewn rhai amgylchiadau, i wrthwynebu’r defnydd o’ch gwybodaeth bersonol. Os ydych yn gwrthwynebu i mi ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol ar gyfer ymgyrchu gwleidyddol neu at ddibenion marchnata uniongyrchol, rhaid i mi roi’r gorau ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y modd hwn.
  • Hawl i gyfyngu ar brosesu – hawl yw hwn i rwystro neu atal eich gwybodaeth bersonol rhag cael ei phrosesu.
  • Gofynnwch am gludadwyedd data eich gwybodaeth bersonol – hawl yw hwn, mewn rhai amgylchiadau, i’w gwneud yn ofynnol i mi roi copi electronig o’ch gwybodaeth bersonol i chi naill ai at eich defnydd eich hun neu fel y gallwch ei rhannu â sefydliad arall.

Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau chi a’m rhwymedigaethau innau i’w gweld ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth https://ico.org.uk/.

Os ydych yn dymuno arfer unrhyw hawliau sydd gennych, gallwch wneud cais drwy gysylltu â mi yn Huw.Irranca-Davies@senedd.cymru

Os ydych yn gwneud cais i arfer unrhyw hawliau sydd gennych, mae gennyf hawl i ofyn i chi roi unrhyw wybodaeth i mi y gall fod ei hangen fel y gallaf gadarnhau pwy ydych chi.

Eich hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl

Os ydych wedi rhoi eich caniatâd i mi ddefnyddio unrhyw ran o’ch gwybodaeth bersonol, gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg drwy gysylltu â Huw.Irranca-Davies@senedd.cymru neu drwy ddull arall a amlinellir isod.

 

SUT Y GALLWCH CHI GYSYLLTU Â MI?

Gallwch gysylltu â mi yn y ffyrdd a ganlyn:

Cyfeiriad post Swyddfa Etholaeth, Uned 2, 112-113 Commercial Street, Maesteg, CF34 9DL
Cyfeiriad e-bost Huw.Irranca-Davies@senedd.cymru
Rhif ffôn 0300 200 7328

 

Fi yw’r sawl sy’n goruchwylio cydymffurfiaeth â’r gyfraith diogelu data a’r hysbysiad preifatrwydd hwn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad preifatrwydd hwn, sut y caiff eich gwybodaeth bersonol ei thrin neu os ydych am wneud cwyn, mae croeso i chi gysylltu â mi.

 

YR HAWL I GWYNO I SWYDDFA’R COMISIYNYDD GWYBODAETH

Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd rwy’n gallu ymdrin â’ch cwyn neu os nad ydych yn fodlon ar y ffordd rwy’n defnyddio eich gwybodaeth bersonol, mae gennych yr hawl hefyd i wneud cwyn ar unrhyw adeg i awdurdod goruchwylio’r DU ar gyfer materion diogelu data, sef Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

 

NEWIDIADAU I’R HYSBYSIAD PREIFATRWYDD HWN

Caf ddiweddaru’r hysbysiad preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd. Os byddaf yn gwneud newidiadau sylweddol, byddaf yn rhoi hysbysiad preifatrwydd newydd i chi. Hefyd, caf roi gwybod i chi mewn ffyrdd eraill o bryd i’w gilydd am brosesu eich gwybodaeth bersonol.

 

English Version of the Privacy Notice

 

Link to Instagram Link to Twitter Link to YouTube Link to Facebook Link to LinkedIn Link to Snapchat Close Fax Website Location Phone Email Calendar Building Search